Gohirio archebion newydd ar gyfer casglu eitemau swmpus am y tro
O ddydd Gwener 19 Ebrill 2024 ni fyddwn ni’n cymryd archebion am gasgliadau eitemau swmpus. Mae hyn er mwyn clirio ein ceisiadau am gasgliadau presennol a chanolbwyntio ein hadnoddau ar baratoi yr hyn sy'n hanfodol ar gyfer y gwasanaeth ailgylchu a chasglu gwastraff newydd.
Fe fydd modd i chi wneud cais am gasgliadau eto o ddydd Llun 3 Mehefin 2024.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra yn sgil hyn.
Rhowch pan fo'n bosibl
Os yw eich eitemau o ansawdd digon da mae’n bosibl yr hoffech ystyried eu rhoi yn hytrach i deulu, ffrindiau, cymdogion neu elusen/grŵp cymunedol.
Sefydliad Prydeinig Y Galon
Gallwch adael eitemau yn siopau Sefydliad Prydeinig Y Galon a’r banciau cyfrannu neu drefnu casgliad am ddim o’ch cartref.
Y Gallwch ffonio 0300 330 3322 neu ymweld â gwefan Sefydliad Prydeinig Y Galon i drefnu casgliad a chael mwy o wybodaeth.
Siopau Elusen
Mae llawer o siopau elusen yn derbyn rhoddion o ddodrefn cartref neu nwyddau trydanol y gallant eu hail-werthu. Gallwch ddod o hyd i siop elusen yn eich ardal chi sy'n ail-werthu amrywiaeth o nwyddau ar wefan y Gymdeithas Siopau Elusen.
Ewch i wefan Cymdeithas Manwerthu Elusennol (gwefan allanol) i ddarganfod siop elusen.
Freecycle
Grŵp nad yw’n gwneud elw sydd wedi ei seilio ar y we yw Freecycle ac mae'n galluogi trigolion i hysbysebu eu heitemau yn rhad ac am ddim. Mae grwpiau Freecycle yn paru pobl sydd â phethau maent am gael gwared arnynt gyda phobl all eu defnyddio.
Ewch i Freecycle.org (gwefan allanol) i gofrestru a hysbysebu eitemau.
Ble i adael eich eitemau
Mae’n rhaid gadael pob eitem yn ffrynt yr eiddo mewn lle sy’n hawdd mynd iddo. Ni fydd ein timau sbwriel yn casglu eitem(au) o’r tu mewn i eiddo.
Ymhen faint y bydd yr eitemau’n cael eu casglu?
Oedi dros dro i gasgliadau eitemau swmpus
Oherwydd prinder staff, mae’n bosibl y bydd yn cymryd hyd at 15 diwrnod i gasglu eitemau swmpus. Lle bo’n bosibl, caiff eitemau swmpus eu casglu ar benwythnosau.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Beth fydd yn digwydd i'r eitemau swmpus y byddwch yn eu casglu?
Fe eir â’r eitemau a gesglir i Ddepo Ailgylchu CAD ar Stad Ddiwydiannol Colomendy ac fe gân nhw eu hailgylchu os byddan nhw’n addas.