Biniau gwastraff ac ailgylchu ar olwynion wedi'u difrodi
Atgyweiriadau
Os yw eich bin olwynion wedi ei ddifrodi, efallai y gallwn ei atgyweirio.
Mae gennym ystod gyfyngedig o ddarnau sbâr ar gyfer biniau olwynion ac mae'n bosibl y gallwn atgyweirio eich bin os oes angen unrhyw rai o'r canlynol arno:
- Olwyn yn lle'r un bresennol (un neu ddwy);
- Echel yn lle'r un bresennol;
- Colyn/colynnau yn lle’r un/rhai presennol / ailosod y caead
Ni allwn osod caeadau eraill yn lle rhai sydd wedi torri o ganlyniad i’r nifer o wahanol fathau o finiau.
Faint mae atgyweirio bin yn ei gostio?
Codir ffi o £10 am y gwasanaeth atgyweirio biniau.
Trefnu i atgyweirio bin
Gellwch gysylltu â ni i drefnu i atgyweirio bin. Dylech nodi maint y bin olwynion a'r lliw pan fyddwch yn cysylltu.
Cael bin arall yn lle un wedi ei ddifrodi
Os na ellir atgyweirio eich bin, neu os hoffech gael bin arall yn ei le, gellwch archebu un newydd ar-lein.
Ewch i weld sut i archebu bin arall yn lle'r un presennol.